Page 18 - Beth am fynd i'r afael a sbwriel
P. 18

3.3




          Trefnu ymgyrch lanhau





        Er ein bod eisiau canolbwyntio ar atal pobl rhag
        gollwng sbwriel yn y lle cyntaf, gall diwrnod glanhau
        fod yn ffordd wych o fod yn amlwg yn y gymuned,
        cymdeithasu a mwynhau’r awyr agored. Gall hefyd fod
        yn ffordd ddefnyddiol o ymchwilio i faterion sbwriel a
        gwerthuso a yw eich ymgyrch yn gweithio.


        Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cynnal ymgyrchoedd
        glanhau cenedlaethol bob blwyddyn – fel Byddwch
        Daclus a Gwanwyn Glân Cymru – sydd o gymorth i
        ddod â gwirfoddolwyr o bob oed ynghyd i ofalu am eu
        hamgylchedd leol. Gallwch gysylltu â Cadwch Gymru’n
        Daclus am gymorth gyda gweithgareddau yn ystod y
        flwyddyn ysgol.

        Ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus am
        awgrymiadau defnyddiol ynghylch sut i gynllunio a
        hybu eich ymgyrch glanhau, a phrynwch offer codi
        sbwriel gan ein partneriaid Helping Hand.
   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22   23