Page 5 - Eco-Schools_Newsletter_Summer-Two-Welsh
P. 5
Ysgol Borthyn: Gweithdy
Uwchgylchu
Cynhaliodd Eco-Senedd Ysgol Borthyn,
Sir Ddinbych siop uwchgylchu ar gyfer
wythnos Wyddoniaeth a Pheirianneg.
Cafodd pawb o Ddosbarth Derbyn i
Flwyddyn 6 ddeunydd gwahanol i’w
defnyddio i wneud eitemau newydd
wedi eu uwchgylchu.
Cafodd yr eitemau eu gwerthu i
ddisgyblion eraill yn yr ysgol i wneud
elw er mwyn uwchraddio’r ardal
allanol a gwneud yr ysgol yn fwy eco-
gyfeillgar.
“Roedden ni eisiau i bawb ddeall pwysigrwydd ailddefnyddio ac ailgylchu,
cadw ein planed yn ddiogel a dysgu sgiliau newydd a sut i ddylunio a gwneud
cynnyrch newydd a fyddai’n gwerthu’n dda. Y cynnyrch mwyaf poblogaidd
oedd, breichledi cyfeillgarwch, dalwyr allweddi, bwystfilod llyfrau a photiau
anifeiliaid.
“Roedd y siop uwchgylchu’n llwyddiant ysgubol a llwyddon ni godi £63 i’r Eco-
bwyllgor wario ar blanhigion ar gyfer yr ardaloedd allanol o gwmpas yr ysgol.
Roedden ni wedi uwchgylchu 12 o fagiau o sbwriel hefyd.”
- Ysgol Borthyn, Eco-Senedd