Page 10 - Eco-Schools_Newsletter_Summer-Two-Welsh
P. 10
Dathlu Gwobrwyon Eco-Sgolion
Gwobrau Eco-Sgolion Presennol
Mae 306 o ysgolion wedi llwyddo i ennill gwobrau Efydd neu Arian Eco-
Sgolion ac ar eu ffordd i ddod yn ysgolion Baner Werdd ffyniannus.
Mae 812 o ysgolion gwladol anhygoel yng Nghymru wedi ennill Baneri
Gwyrdd, sy’n adlewyrchu ymrwymiad pobl ifanc Cymru a’u hathrawon i
ofalu am ei gilydd, ein cymunedau a’n hamgylchedd.
Ddim yn siŵr sut mae’r gwobrau’n gweithio? Dewch i ni eich hatgoffa:
Mae’r Wobr Efydd yn garreg filltir hunanasesu sy’n cynnwys sefydlu’r broses
Eco-Sgolion, gan sicrhau bod yr ysgol yn barod i fynd i’r afael â’i gwaith eco.
Nesaf, mae’r Wobr Arian, sy’n ehangu ar y sylfaen a gafodd ei sefydlu
yn ystod cyfnod y Wobr Efydd. Ar yr adeg hon, dylai’r gwaith sy’n cael ei
wneud ddangos cynnydd clir tuag at ennill y Faner Werdd.
Mae’r Faner Werdd yn cael ei rhoi i ysgolion yn dilyn asesiad gan Swyddog
Addysg, a fydd yn ymweld â’r ysgol i weld a yw’r meini prawf ar gyfer y
wobr wedi’u bodloni. Cliciwch yma i ddarganfod mwy.
Pan fydd ysgol wedi dangos ei hymrwymiad parhaus i ofal amgylcheddol ac
addysg trwy ennill y Faner Werdd am dair cylchred yn olynol, gallai symud
ymlaen i’r Wobr Platinwm uchel ei pharch.