Page 9 - Eco-Schools_Newsletter_Summer-Two-Welsh
P. 9
Ysgol Bryn Deva: Cadwraeth Gwenoliaid Duon
“Rydyn ni yn Ysgol Bryn Deva, Sir y Fflint, wedi bod yn gweithio gyda
Chadwraeth Gwenoliaid Duon, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i
geisio annog gwenoliaid duon i
ymweld â’n hysgol.
“Cafodd tŷ gwenoliaid ei osod ar
simnai’r ysgol ac rydyn ni wedi
creu banc blodau gwyllt i ddenu
trychfilod i’r gwenoliaid eu bwyta.
Gweithion ni gydag Iwan o’r
Ymddiriedolaeth i blannu blodau
gwylltion hefyd.
“Rydyn ni wedi bod yn chwarae
galwadau gwenoliaid ac roedden
ni’n gyffrous iawn i weld pedair
gwennol ddu yn hedfan heibio!”
- Helen Foley-Thompson, Athrawes
Blwyddyn Un
Beth yw uchafbwynt eco eich blwyddyn?
Dywedwch wrthym!
Tagiwch @ecosgolioncymru ar y cyfryngau cymdeithasol.