Page 11 - Eco-Schools_Newsletter_Summer-Two-Welsh
P. 11
Gwersi byw yn mynd o nerth i nerth
Mae ein tîm yn cynllunio llu o ddigwyddiadau rhithwir newydd ar gyfer y
flwyddyn ysgol newydd. Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn
bod y cyntaf i gael gwybod!
Oeddech chi yn un o’r 737 o ddosbarthiadau a fynychodd un o’n
digwyddiadau rhithwir byw eleni? Diolch i chi gyd am ymgysylltu â chymaint
o frwdfrydedd a chyfrannu at ein sesiynau hynod lwyddiannus!
Mae gennym ni hyd yn oed mwy o ddigwyddiadau yn nhymor olaf y
flwyddyn, ydych chi wedi bod yn cymryd rhan? Rhannwch eich lluniau gyda
ni ar gyfryngau cymdeithasol.
Daeth 440 o addysgwyr o bob rhan o Gymru i ymuno â ni ar gyfer ein
gweithdai i addysgwyr, gan ddysgu sut i sefydlu eu teithiau Eco-Sgolion
neu eu symud ymlaen yn ogystal â datblygu eu gwybodaeth am faterion ac
atebion amgylcheddol.
Daeth Helen o Ysgol Maesglas,
Sir y Fflint, yn un o’r addysgwyr
cyntaf i gael ei hardystio’n Garbon
Llythrennog trwy fynychu ein
sesiynau.