Page 6 - Eco-Schools_Newsletter_Summer-Two-Welsh
P. 6

Ysgol Gynradd Tref y Rhyg: Y

          Gwahaniaeth y mae awr yn



          gallu ei gwneud
          “Sylwodd  disgyblion  Ysgol  Gynradd
          Tref-Y-Rhyg, Rhondda  Cynon  Taf, ar

          swm mawr o sbwriel ar y strydoedd
          wrth gerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.

          Roedden ni i gyd yn grac iawn, mewn
          anghrediniaeth ac yn ddigalon, felly

          penderfynon  ni  wneud  rhywbeth

          am y peth a chymerodd CA2 ran yn y
          fenter Ardaloedd Di-sbwriel.


          Daeth ein cynghorydd  lleol  ar bob
          taith  gerdded  ac mae’n  hynod

          falch  ohonon  ni  a’n hymrwymiad.                   “Hyd yn hyn, rydyn ni wedi casglu 18
          Ymrwymodd ein hysgol i deithiau                      bag ym mis Chwefror a 5 bag ym mis

          cerdded awr o hyd lle rhannon ni’n                   Mai.  Rydyn ni’n  codi  sbwriel nesaf
          ddau  grŵp  a  dilyn  llwybr  penodol                ym mis Mehefin 2023. Gadewch i ni

          o amgylch ein  hysgol.  Rydyn  ni’n                  ledaenu’r gair i gadw’r sbwriel oddi

          teimlo’n hynod o falch yn enwedig                    ar ein strydoedd!”
          pan  mae aelodau’r gymuned leol
          yn  canu  corn,  yn  chwifio,  ac  yn  ein           -       Patricia  Gould, Arweinydd  Tîm

          llongyfarch wrth i ni godi sbwriel.                  Eco
   1   2   3   4   5   6   7   8   9   10   11