Page 12 - Eco-Schools_Newsletter_Summer-Two-Welsh
P. 12
Gwella tiroedd ysgol gyda Lleoedd Lleol
ar gyfer Natur
Dros y flwyddyn ysgol ddiwethaf, mae 59 o erddi wedi’u creu, eu
hadfer a’u gwella mewn ysgolion ledled Cymru.
Mae’r cyfan wedi digwydd o ganlyniad i gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
Cadwch Gymru’n Daclus sydd yn ôl am y bedwaredd flwyddyn. Rydym yn
gyffrous iawn i ddweud ei bod hi’n haws fyth i ysgolion gymryd rhan erbyn
hyn!
Beth sydd wedi’i gynnwys mewn pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer
Natur?
Mae’r pecynnau rhad ac am ddim yn amrywio o brosiectau garddio bach i
berllannau cymunedol a gweddnewidiadau eraill ar raddfa fawr. Mae pob un
yn cynnwys planhigion brodorol, offer a deunyddiau, arweiniad ar sut i osod
yr ardd, a chymorth ymarferol gan swyddogion prosiect arbenigol Cadwch
Gymru’n Daclus.
#NôliNatur