Page 13 - Eco-Schools_Newsletter_Summer-Two-Welsh
P. 13
Beth yw’r manteision?
Dwy o’r ysgolion sydd wedi’u helwa o becynnau tyfu bwyd Lleoedd Lleol ar
gyfer Natur yn 2022 – 2023 yw Ysgol Bryn Hedydd yn Sir Ddinbych ac Ysgol
Gynradd Pentre-baen yng Nghaerdydd.
Roedd staff Bryn Hedydd ‘wrth eu bodd’ gyda’r ardd newydd gan ei bod yn
rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu am feithrin planhigion a thyfu bwyd tra
hefyd yn cydweithio â chyfoedion ac oedolion yng nghymuned ehangach yr
ysgol.
“Mae’r ardd yn golygu llawer iawn i’r gymuned ac mae gwaith
wedi dechrau’n gyflym iawn ar ei datblygiad a’i thwf. Mae plant ac
oedolion fel ei gilydd yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynnal
a chadw’r safle ac mae pawb sy’n cymryd rhan yn cymryd diddordeb
mawr yn ei ddyfodol.”
- Danielle Lee, Athrawes Arbenigol yn Ysgol Gynradd Pentre-baen