Page 16 - Eco-Schools_Newsletter_Summer-Two-Welsh
P. 16
Fy Nghoeden Ein Coedwig
Ymunodd Eco-Sgolion Cymru â
Choed Cadw, Llais y Goedwig a
Maint Cymru, i blannu dros 8,000 o
goed mewn 100 o ysgolion ledled
Cymru fel rhan o’r prosiect i ysgolion
‘Fy Nghoeden Ein Coedwig’.
Roedd y prosiect yn llwyddiant
mawr, gyda Swyddogion Addysg
yn mwynhau plannu coed gyda
disgyblion a rhannu gwybodaeth
am sut mae coed yn gweithio, sut y
gallwn ofalu amdanyn nhw, a pham
eu bod mor bwysig i’n planed.