Page 15 - Eco-Schools_Newsletter_Summer-Two-Welsh
P. 15

Cadw pethau’n lân gydag Ardaloedd



                                               Di-Sbwriel


        Mae Ardaloedd  Di-Sbwriel yn                          Y flwyddyn academaidd hon

        brosiect sy’n cefnogi ysgolion i                      cofrestrodd 56 o ysgolion newydd
        fabwysiadu ardaloedd penodol ar                       ar y rhaglen, gan gynnwys 1,737

        gyfer casglu sbwriel yn rheolaidd.                    o wirfoddolwyr codi sbwriel a

        Boed y ffordd y tu allan i’ch ysgol                   gasglodd 711 o fagiau sbwriel a

        neu’r parc lleol, mae bob amser yn                    178 o fagiau ailgylchu. Dyna 889
        teimlo’n wych gwybod eich bod chi’n                   bag o wastraff wedi’u tynnu o’n

        cyfrannu at y gymuned ac yn annog                     hamgylchedd lleol a’u gwaredu yn y
        disgyblion i ddatblygu ymdeimlad                      ffordd gywir – da iawn chi!

        o atebolrwydd a balchder yn y lle y
        maen nhw’n byw ynddo.

                   “Mae wedi dod yn gyfle i rai gamu i fyny a chael cyfrifoldeb.”

                       - David Lawson, staff CPA, Ysgol Llywelyn, Sir Ddinbych


        “Roedd y plant wedi mwynhau mynd allan i gasglu sbwriel yn fawr iawn.

        Roedden nhw wedi syfrdanu gan faint o sbwriel yr oedden nhw wedi’u casglu
                                                        hefyd”.

                  - Bethan Mathias, athrawes blwyddyn 5, YGG Bronllwyn, RhCT

        Oes diddordeb gennych chi mewn cymryd rhan yn y cynllun Ardaloedd Di-

                            Sbwriel? Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20