Page 11 - Eco-School Newsletter Summer-One-Welsh
P. 11
Gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff offer
trydanol ac electronig (WEEE) i Ysgolion
Nawr mae ysgolion, colegau a sefydliadau hyfforddi yng Nghymru yn gallu
ailgylchu hen offer trydanol ac electronig. Os oes angen i chi dacluso a chreu
lle, mae ailgylchu’n ddiogel yn gallu helpu.
Mae ein cynllun casglu yn bartneriaeth gydag A&LH Environment, gwasanaeth
gwaredu TG achrededig, sy’n galluogi ysgolion i gael gwared ar offer diangen
mewn un gwasanaeth casglu hollgynhwysol, gan wybod eich bod yn lleihau’r
effaith ar yr amgylchedd ac yn gwneud y mwyaf o’ch cyfraniad i’r amgylchedd.
Mae amrywiaeth o sylweddau peryglus mewn offer trydanol ac electronig sydd
â’r potensial i achosi niwed parhaol i’r amgylchedd, bywyd gwyllt ac iechyd y
cyhoedd. Mae arsenig, plwm a mercwri mewn elfennau trydanol ac maen nhw
i gyd yn beryglus os nad ydyn nhw’n cael eu gwaredu’n ddiogel.
Mae’r Gwasanaeth Ailgylchu Gwastraff Offer Trydanol ac Electronig yn ffordd
wych i ddangos eich ymrwymiad i gynaliadwyedd, newid hinsawdd a’r
economi gylchol.
Mae Cadw’ch Gymru’n Daclus yn cael Rydyn ni bob amser yn edrych am
canran o unrhyw elw sy’n cael ei gwneud gyfleoedd i adeiladu partneriaethau
ac mae honno’n cael ei ail fuddsoddi newydd gydag ysgolion. Os oes
i waith yn y gymuned ac addysg, gan diddordeb gan eich ysgol mewn
ein galluogi i barhau i redeg rhaglenni gweithio gyda ni, cysylltwch â’n tîm
a fydd o fudd i bobl Cymru. ailgylchu: recycling@keepwalestidy.
cymru