Page 13 - Eco-School Newsletter Summer-One-Welsh
P. 13
Teithio llesol i leihau ôl troed carbon
Sylwodd aelodau o’r Eco-Bwyllgor yn
Ysgol Gynradd Durand fod llawer o
ddysgwyr yn teithio i’r ysgol mewn
ceir, er bod llawer o blant yn byw
gerllaw.
Roedd y pwyllgor am newid hyn a
lleihau ôl troed carbon eu hysgol,
targed o’u cynllun gweithredu Eco-
Sgolion.
Roedd dysgwyr wedi ymchwilio i ôl troed carbon teithio, sut mae hynny’n
effeithio ar yr amgylchedd ac am yr effeithiau cadarnhaol y gall mynd am
dro cyflym eu cael ar iechyd amgylcheddol, corfforol a meddyliol.
Wedi’u hysbrydoli gan hyn, gwnaethon nhw gofrestru ar gyfer her cerdded
i’r ysgol ‘Living Streets’ o’r enw WOW. Roedd bod yn rhan o WOW yn annog
dysgwyr i gerdded i’r ysgol trwy gynnig ychydig o gystadleuaeth a chael eu
cydnabod am eu hymdrechion; gall unigolion a dosbarthiadau cyfan ennill
bathodynnau.
Mae’r llwyddiannau yn cael
eu dathlu bob mis mewn
gwasanaeth, ond mae Ysgol
Durand eisiau i ysgolion eraill
allu lleihau eu hôl troed a dathlu
eu llwyddiannau hefyd. Maen
nhw’n gobeithio ysbrydoli ac
annog ysgolion eraill i gofrestru
hefyd.