Page 12 - Eco-School Newsletter Summer-One-Welsh
P. 12

Cael eich ysbrydoli




          Beth mae Eco-Sgolion wedi bod yn ei wneud








                                                                Ceir  Segur  ar  ddiwedd

                                                                            diwrnod ysgol




                                                                Sylwodd Eco-Bwyllgor Ysgol
                                                                Llanfaes ym Mhowys pan oedd

                                                                rhieni yn aros yn y maes parcio i
                                                                gasglu eu plant o’r ysgol eu bod yn

                                                                gadael eu ceir yn rhedeg!



                                                                Roedd y plant yn gallu clywed

        y llygredd sŵn ac yn gwybod y byddai llygredd aer yn cael ei gynhyrchu
        hefyd. Gwnaeth yr eco-bwyllgor bosteri ac arwyddion a gafodd eu rhoi ym

        maes parcio’r ysgol yn hysbysu rhieni o’r mater ac yn eu hannog i ‘arbed
        tanwydd a diffodd eu peiriannau’.




        Gwisgodd y pwyllgor
        siacedi lliw llachar hefyd
        a mynd o gwmpas y maes

        parcio am wythnos, gan

        sicrhau bod unrhyw rieni
        nad oedden nhw wedi

        gweld eu harwyddion yn
        ymwybodol o’r ymgyrch.

        Erbyn diwedd yr wythnos,
        roedden nhw’n sylwi ar

        wahaniaeth mawr; nid oedd yr un car yn eistedd yn y maes parcio gyda’i

        injan yn segura. Da iawn!
   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17