Page 16 - Eco-School Newsletter Summer-One-Welsh
P. 16
Gwobrau Cymru Daclus
Yn dyddio’n ôl i 1990, mae Gwobrau Cymru Daclus yn anrhydeddu arwyr
amgylcheddol – yr unigolion, y grwpiau, yr ysgolion, a’r busnesau sy’n mynd
gam ymhellach i ofalu am ein gwlad brydferth.
Dyma’r rhai sydd wedi cyrraedd rownd derfynol 2023…
Tîm Gwyrdd Ysgol Gymunedol Pennar
Ysgol Fabanod Cefn Glas
Ysgol Gymunedol Peniel
Cafodd aelodau’r ysgolion hyn eu gwahodd i fynychu seremoni gwobrwyo
Gwobrau Cymru Daclus ar 19 Ebrill yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama
Cymru yng Nghaerdydd i ddathlu eu gwaith caled a’u harloesedd o fewn y
rhaglen Eco-sgolion.
Diolch yn fawr i bawb a gafodd eu henwebu, roedd hi’n anodd iawn i’r
tîm o feirniaid wneud penderfyniad. Rydyn ni’n edrych ymlaen at dderbyn
enwebiadau unwaith eto’r flwyddyn nesaf!
Dangosodd pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol pa mor effeithiol y
gall gweithredu amgylcheddol dan arweiniad disgyblion mewn ysgolion
fod, rydych i gyd yn hynod ysbrydoledig ac rydym yn gyffrous i weld pa
ddatblygiadau eraill sydd ar y gweill.
Congratulations to
Cefn Glas Infant
School who won
the Eco-Schools
Innovation award
2023!