Page 17 - Eco-School Newsletter Summer-One-Welsh
P. 17
2023 Y Rownd Derfynol
Ysgol Fabanod Cefn Glas
Mae gofalu am yr amgylchedd yn rhan o fywyd bob dydd i
staff a disgyblion Ysgol Fabanod Cefn Glas ym Mhen-y-bont
ar Ogwr; o siopau cyfnewid a chasglu sbwriel i dyfu bwyd
a defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu mewn gwersi
cerddoriaeth a hanes. Trwy rymuso disgyblion â gwybodaeth
a sgiliau amgylcheddol, mae effaith gadarnhaol Cefn Glas yn
mynd ymhell y tu hwnt i gatiau’r ysgol.
Tîm Gwyrdd Ysgol Gymunedol Pennar
Arwyddair Tîm Gwyrdd Ysgol Gymunedol Pennar yw ‘newidiadau
bach, gwahaniaeth mawr’. Yn 2021, wedi’u hysbrydoli gan
uwchgynhadledd COP y Cenhedloedd Unedig, creodd disgyblion
eu cynhadledd newid hinsawdd flynyddol eu hunain sydd wedi
arwain at newidiadau amgylcheddol cadarnhaol yn yr ysgol, y
gymuned leol ac ar draws Sir Benfro.
Ysgol Gymunedol Peniel
Mae Ysgol Gymunedol Peniel yn Sir Gaerfyrddin yn Eco-Ysgol
Blatinwm gydag eco-bwyllgor hynod weithgar ac angerddol
sy’n cael ei arwain gan ddisgyblion. Mae eu hymgyrch
ddiweddar ‘Llai o Wastraff ar gyfer y Nadolig’ yn un enghraifft
o sut maen nhw’n annog cymuned gyfan yr ysgol i wneud
dewisiadau mwy ecogyfeillgar.