Page 5 - Eco-Schools Wales Newsletter, Spring 1 2023 - welsh
P. 5

Bwyd






      Does dim gwadu bod bwyd yn bwysig mewn cymaint o ffyrdd ac yn ganolig i’n

      bywydau. Er enghraifft, mae gan fwyd effaith enfawr ar ein hiechyd, ac mae
      ein harferion dyddiol yn aml yn ymwneud â phrydau bwyd. Yn ogystal â hyn,

      mae bwyd yn chwarae rhan arwyddocaol mewn hunaniaethau diwylliannol ar

      draws y byd. Ond mae’r prosesau sydd ar waith i gael bwyd ar ein platiau yn
                       effeithio ar y blaned yn fwy nag ydyn ni’n sylweddoli.








           “Before you finish eating breakfast in the morning,


             you’ve depended on more than half of the world”

                                        - Martin Luther King Jr, 1967

















     Mae’r dyfyniad hon yn gallu cyfeirio                      Dehongliad  arall  o’r  dyfyniad  gallai

     at  arwynebedd  tir  y  byd  yr  ydym                     bod y bobl rydyn ni’n dibynnu arnyn
     yn dibynnu arno,  oherwydd o’r 106                        nhw i weithio ar y tir a’r moroedd i

     miliwn  km2  o  dir  cyfannedd  yn  y                     dyfu  a  chynhyrchu’r  2.5  biliwn  o

     byd (heb ei orchuddio â rhewlifoedd                       fwyd mae pobl y byd yn ei fwyta bob

     neu’n ddiffrwyth), mae bron i hanner                      blwyddyn.
     yn  cael  ei  ddefnyddio  ar  gyfer

     amaethyddiaeth.


     Hynny yw tyfu bwyd i ni ei fwyta,
     neu dyfu cnydau i fwydo anifeiliaid

     sydd yn eu tro yn cynhyrchu bwyd i

     ni.


     Gadewch i ni edrych ar rai o oblygiadau o fwydo’r 8 biliwn o bobl sy’n byw ar

                                                     y Ddaear...
   1   2   3   4   5   6   7   8   9   10