Page 6 - Eco-Schools Wales Newsletter, Spring 1 2023 - welsh
P. 6
Ôl troed Carbon Cynhyrchu Bwyd
Mae amrywiaeth eang o fwydydd ar
silffoedd yr archfarchnadoedd yng
Nghymru – bwyd sy’n dod o wledydd
ar draws y byd, ar unrhyw adeg y
flwyddyn.
Mae cael y bwydydd hyn i Gymru
yn cymryd llawer iawn o egni, boed
wrth eu cludo, neu yn y ffordd maen
nhw’n cael eu cynhyrchu. Dyma rai
esiamplau o allyriadau nwyon tŷ
gwydr rhai bwydydd cyffredin rydyn
ni’n eu bwyta yng Nghymru.
Bananas
Mae’n ffrwyth egsotig sy’n tyfu mewn gwledydd pell;
efallai y byddwch chi’n meddwl bod gan y byrbryd
arbennig hwn ôl troed carbon uchel ar ei ffordd i’n
basgedi siopa. Ond diolch i’r ffaith nad oes angen llawer
o fewnbwn egni i’w tyfu, diolch i’w pecynnu naturiol a’u
haddasrwydd i gael eu cludo gan gwch mewn niferoedd
mawr, mae gan y fanana effaith gymharol isel o 110g
CO2e.
Dydy hwn ddim yn ddrwg o
ystyried yr holl galorïau a’r
maetholion maen nhw’n eu
rhoi i ni!