Page 14 - Diwrnod Gweithredu
P. 14

3.2




          Beth allwn ni ei wneud?





                              SYNIADAU




                              Gall trefnu Diwrnod Gweithredu ar gyfer glanhau fod yn ffordd wych o fod yn weladwy yn y gymuned, cymdeithasu a mwynhau’r awyr iach.
                              Gallwch gadw mewn cysylltiad â Chadwch Gymru’n Daclus am gymorth gyda gweithgareddau yn ystod y flwyddyn ysgol a mynd i’r wefan
                              am awgrymiadau defnyddiol ynghylch sut i gynllunio a hyrwyddo eich diwrnod keepwalestidy.cymru/tacluswch. Cofiwch wneud eich hun yn
                              weladwy, gwnewch faneri ac ysgrifennwch erthygl yng nghylchlythyr yr ysgol.


                              Cynhaliwyd cyfrifiad Sbwriel i ganfod faint a pha fath o sbwriel sydd ar dir yr ysgol a’r ardal gyfagos. Crëwch siartiau data a thrafodwch o ble
                              gallai’r sbwriel fod wedi dod. Ble mae’r mannau gwaethaf ar gyfer sbwriel yn yr ysgol ac yn y gymuned? Crëwch fapiau, lluniau neu fideos o dir
                              eich ysgol a’r strydoedd cyfagos a’r parc lleol neu’r traeth i godi ymwybyddiaeth o’r mater.


                              Ymchwiliwch i effaith sbwriel ar ein hamgylchedd ac ar ein bywyd gwyllt.  Meddyliwch am y strydoedd, cefn gwlad, traethau, afonydd a
                              moroedd.  Meddyliwch hefyd am eitemau sy’n cael eu rhyddhau i’r awyr.

                              Ymchwiliwch i gost ariannol sbwriel a chasglu gwastraff yn eich ysgol. Sut gellir lleihau hyn?


                              A yw pawb yn gwybod ble mae’r biniau yn adeilad yr ysgol ac ar iard yr ysgol? Gofynnwch i’r disgyblion ddylunio arwyddion newydd ar gyfer y
                              biniau sbwriel a chyflwynwch gystadleuaeth ar gyfer y dyluniad gorau.

                              Dyfeisiwch holiadur yn gofyn pam y mae pobl yn gollwng sbwriel a beth fyddai’n eu hatal.  Gofynnwch i bawb yn eich ysgol lenwi’r holiadur a
                              rhowch dasg i’r disgyblion fynd ag ef adref er mwyn gofyn i berthnasau a ffrindiau. Beth ydych chi wedi ei ganfod? Allwch chi wneud unrhyw
                              welliannau yn yr ysgol?
   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19