Page 19 - Diwrnod Gweithredu
P. 19
4.2
Beth allwn ni ei wneud?
IDEAS
Arolygu tir yr ysgol. Canfod pa gyfleusterau sydd gennych yn barod a gwneud rhestr. Beth sydd angen i chi ei wneud i wella pethau ymhellach?
Crëwch fap, tynnwch luniau neu gwnewch fideo.
Rhowch gyfweliad i ddisgyblion er mwyn casglu safbwyntiau am dir yr ysgol. Beth yw eu hoff ardal? Beth maent yn ei ddefnyddio fwyaf? A
ydynt yn ymwybodol o bopeth y tu mewn i dir yr ysgol? A oes ganddynt unrhyw awgrymiadau ar gyfer datblygiadau i’r dyfodol?
Archwiliwch pa greaduriaid sy’n byw ar dir eich ysgol. Cynhaliwch arolwg trychfilod neu fywyd gwyllt neu eisteddwch a gwyliwch beth sy’n
digwydd. Ysgrifennwch neu tynnwch lun yr hyn yr ydych yn ei glywed. Beth yn eich barn chi y mae’r coed, y blodau a’r anifeiliaid yn ei ddweud
wrth ei gilydd?
Crëwch gynefinoedd newydd ar dir eich ysgol. Gwnewch gartrefi a phorthwyr i’r creaduriaid sydd yn byw yno i’w hannog i aros. Penderfynwch ar
y mannau gorau i’w rhoi.
Cynhaliwch ddiwrnod plannu – Gallai hyn gynnwys bylbiau, planhigion peillio, creu dôl flodau neu goed a gwrychoedd hyd yn oed. Pa fwyd allech
chi ei dyfu?