Page 24 - Diwrnod Gweithredu
P. 24

5.2




          Beth allwn ni ei wneud?





                              SYNIADAU




                              Cynhaliwch Ddiwrnod Pecyn Bwyd Di-blastig neu Ddi-wastraff. Anogwch bawb i leihau’r pecynnau a ddefnyddir ar gyfer eu cinio. Cymharwch
                              faint o wastraff sydd mewn diwrnod cinio arferol â diwrnod diwastraff. Ystyriwch ddewisiadau amgen i becynnau plastig neu gynwysyddion
                              untro. Lluniwch daflen wybodaeth i’r cartref a rhowch hi ar y wefan. Gallech hefyd edrych ar y cinio ysgol.  Allwch chi leihau’r plastig o boteli
                              llaeth trwy brynu cynwysyddion mwy neu newid i boteli gwydr? Allwch chi newid i boteli a chwpanau aml-dro os ydych yn defnyddio rhai untro?


                              Ymchwiliwch i ddefnyddio, ailddefnyddio ac ailgylchu papur ar draws yr ysgol.  Dylech gynnwys ystafelloedd dosbarth, swyddfeydd, ystafelloedd
                              staff a choridorau. Gallai’r disgyblion fod yn dditectifs biniau a chynnal gwiriadau yn y fan a’r lle i gael darlun cywir o’r sefyllfa ailgylchu papur.
                              Canfyddwch pa wybodaeth sy’n mynd allan ar ebost neu neges destun.  A ellir gwella hyn?


                              A yw eich ysgol yn defnyddio gwellt plastig? A oes eu hangen arnoch? Archwiliwch y problemau maent yn eu hachosi a gwnewch addewid ysgol
                              gyfan i fod yn ysgol heb wellt plastig. Beth am fynd â’ch neges i’ch cymuned leol. Gwyliwch y fideo “Straw No More”

                              Rhowch her dim safleoedd tirlenwi i’ch ysgol! Sut gallech osgoi rhoi unrhyw beth i mewn i’r biniau?


                              Edrychwch ar eich biniau! Nodwch unrhyw eitemau sydd wedi eu gwneud o blastig. O ble ddaethant? Ydyn nhw wedi cael eu cludo i’r ysgol neu
                              wedi cael eu rhoi/gwerthu i ddisgyblion yn yr ysgol? Sut gellir lleihau hyn? A allai’r eitemau hyn fod wedi cael eu gwrthod, eu hailddefnyddio
                              neu eu hailgylchu? A allai cynnyrch mwy ecogyfeillgar fod wedi cael eu defnyddio yn lle hynny? Gallech ailadrodd yr archwiliad hwn gan edrych
                              ar lygrwyr plastig ar dir yr ysgol.


                              Cynhaliwch ddiwrnod ailgylchu plastig! Sawl dewis amgen y gallwch chi ddod o hyd iddynt? Gofynnwch i bawb wneud addewid plastig.

                              Gwnewch weithgareddau creadigol fel modelu sbwriel, dylunio llyfr lloffion, gwneud papur â llaw, offerynnau cerdd o sbwriel ac uwchgylchu
                              eitemau. Ailddefnyddiwch blastig ar gyfer gweithgareddau celf a chrefft, crëwch gynwysyddion potiau planhigion, porthwyr adar a chreaduriaid.
                              Mae rhai ysgolion wedi creu tai gwydr ac iglæau! Ailddyluniwch y biniau ailgylchu a chrëwch bosteri gwybodaeth.
   19   20   21   22   23   24   25   26   27   28   29