Page 32 - Diwrnod Gweithredu
P. 32
6.2
Beth allwn ni ei wneud?
SYNIADAU
Cyfrwch y fflysh! Gofynnir i ddisgyblion fonitro sawl gwaith y mae’r toiledau’n cael eu fflysio mewn diwrnod. Archwiliwch sawl litr o ddær sydd
ym mhob fflysh a chyfrifwch faint a ddefnyddir mewn diwrnod ysgol.
Archwiliwch ffyrdd o arbed dær. A oes gan eich ysgol unrhyw ddyfeisiadau arbed dær? (e.e. casgenni dær, bagiau hippo). Cyfrifwch faint o ddær
y mae’r eitemau hyn yn eich helpu i arbed.
Gofynnwch i ddisgyblion feddwl am yr holl ffyrdd y maent yn defnyddio dær bob dydd. Crëwch ddyddiadur dær i’w lenwi dros wythnos. Gallai
hyn gynnwys defnydd anuniongyrchol (botelu diodydd, bwyd, prosesau gweithgynhyrchu) yn ogystal â defnydd uniongyrchol (golchi, toiledau
ac ati). Efallai bydd y swm y maent yn ei ddefnyddio yn syndod iddynt.
Gofynnwch i’r disgyblion i feddwl ac ysgrifennu am fywyd lle mae dær yn adnodd prin, efallai fel rhan o astudiaeth gymharol ag un arall gwlad.
Gallai eich ysgol gysylltu eich Diwrnod Gweithredu â sefydliadau byd-eang fel Gefeillio Toiledau neu Water Aid
Os oes gan eich ysgol bwll, archwiliwch y creaduriaid ynddo. Os nad oes gan eich ysgol bwll, archwiliwch ffordd o wneud un.
A yw eich ysgol yn cael llifogydd neu ardaloedd mawr o ddær arwyneb pan fydd glaw trwm? Ymchwiliwch i ffyrdd o gasglu neu ailddosbarthu’r
glaw hwn – allech chi gynyddu’r ardaloedd glaswellt, plannu mwy o goed, gosod casgenni dær neu greu plannwyr ychwanegol?
Gofynnwch i’r disgyblion feddwl am ffyrdd y byddant yn gallu cadw dwr yn yr ysgol a gartref. Crëwch daflen ffeithiau awgrymiadau defnyddiol a
dywedwch wrth gymuned yr ysgol amdano.
Casglwch addewidion cadw dær – byddwch yn greadigol ac ysgrifennwch nhw ar dempled dær a chreu gludwaith.
Gofynnwch i'r disgyblion ddysgu am y cylch dær i greu cyflwyniad a rhannu'r wybodaeth yn ystod eich Diwrnod Gweithredu Dær.