Page 10 - Eco-Schools Newsletter - Spring One 2024 - Welsh
P. 10
Cael eich ysbrydoli
Dewch i weld beth mae Eco-Sgolion ar draws Cymru wedi bod yn ei wneud.
Tyfu Bwyd yn Ysgol Bryn Deva
Trawsnewidiodd Ysgol Bryn Deva, Sir y Fflint ardal o dir eu hysgol gyda
TITLE
chymorth pecyn datblygu tyfu bwyd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Cafodd
XXX
gwelyau uchel eu creu i dyfu bwyd a chafodd coed ffrwythau, llwyni
blodeuol, bylbiau, perlysiau a hadau eu plannu.
Roedd yr ardd wedi’i chynllunio i alluogi’r gymuned i dyfu a chynaeafu
ffrwythau a llysiau a bydd ychwanegiadau megis ardal o dywarchen blodau
gwyllt yn helpu i greu gardd sy’n llawn peillwyr buddiol a bywyd gwyllt
eraill.
Cyn
Ar ôl
“Rydym mor ddiolchgar am yr ardd fendigedig rydych chi wedi’i dylunio a’i
chreu i ni. Does dim byd mwy prydferth na gardd yn llawn o blant yn arsylwi
ar fywyd a thyfiant yn y gwanwyn a’r haf. Mae gwylio’r plant yn gofalu am y
planhigion a’r creaduriaid yn dod â chymaint o bleser i ni. Mae wedi gwneud
gwahaniaeth enfawr i ddysgu yn yr awyr agored.”
- Helen Foley Thomas, Ysgol Bryn Deva

