Page 15 - Eco-Schools Newsletter - Spring One 2024 - Welsh
P. 15
Y Gornel ddarllen
Ein Bwyd 1200:
Archwiliwch sut a pham mae’r sefydliad hwn yn gweithio i adeiladu ffermio
ffrwythau a llysiau modern ac adfywiol ar gyfer marchnadoedd lleol yng
Nghymru.
Ymgyrch One the Verge ‘One Meter Matters’:
Mae’n gallu bod yn llethol iawn ceisio penderfynu beth i’w wneud i helpu i
frwydro yn erbyn yr argyfyngau hinsawdd ac amgylcheddol. Mae ‘One Meter
Matters’ yn ymgyrch wych sy’n dangos bod hyd yn oed camau bach yn gallu
cael effaith. Canolbwyntiwch ar un ardal fach a’r newid rydych chi’n gallu ei
wneud yn y gofod hwnnw.
Mae Dere i Dyfu gyda Dewi Draenog gan Adam
Jones yn llyfr Cymraeg lliwgar llawn ffeithiau
a darluniau i helpu dysgwyr y Cyfnod Sylfaen i
dyfu blodau, ffrwythau a llysiau. Mae hefyd yn
dangos sut i ofalu am yr ardd gyda chymorth dau
gymeriad hoffus, Dewi Draenog a Beca Broga.