Page 12 - Eco-Schools Newsletter - Spring One 2024 - Welsh
P. 12
Eco-Sgolion rhyngwladol
Tyfu gyda’ch Bwyd
Mae ‘Tyfu gyda’ch Bwyd’ yn gystadleuaeth ffotograffiaeth wych sy’n cael ei
harwain gan Eco-Sgolion Estonia a oedd yn gwahodd dysgwyr o bob rhan
o’r byd i arddangos eu profiadau tyfu bwyd trwy ffotograffau.
Roedd Pearl, naw oed o Ysgol Gynradd Llanarth, wedi creu argraff ar y
beirniaid gyda’i chyflwyniad o’r enw “A Christmas Bloom”. Da iawn Pearl am
dy ffotograffiaeth wych!
Enillodd Georgia 11 oed y wobr am y llun gorau yn y categori plant.
Rhannodd Georgia eu profiad o dyfu amrywiaeth gwenith hynafol yng
ngardd yr ysgol.
Enillydd y categori ieuenctid oedd
Zala o Slofenia, a gipiodd eiliad ar
gamera gyda’r teitl chwareus ac
aml-ystyr “Bee Happy!”.
I weld yr oriel, cliciwch yma.