Page 13 - Eco-Schools Newsletter - Spring One 2024 - Welsh
P. 13
Atebion arloesol
Mae newid hinsawdd yn broblem fyd-eang, felly er mwyn ceisio mynd i’r
afael ag ef, mae pobl ar draws y byd yn dyfeisio atebion byd-eang. Mae’r
ffordd rydym yn tyfu bwyd yn bwysig iawn, ond mae hefyd yn bwysig i
edrych ar gylch cyfan cynhyrchu bwyd a sut ydyn ni’n gallu gwneud y mwyaf
o bob cyfle i helpu ein planed.
Ydych chi’n gallu dychmygu sidan
wedi’i wneud o grwyn orennau?
Cotwm wedi’i greu o greu o grwyn bananas?
Dail pîn-afal wedi’u taflu yn cael eu hailddyfeisio’n
‘lledr’?
Does dim angen i chi ddychmygu gan fod unigolion a
chwmnïau arloesol ar draws y byd wedi gwneud hyn
yn barod!
Gan gymryd ysbrydoliaeth o gylchoedd ym myd
natur, lle nad oes dim yn cael ei wastraffu, mae’r
holl sgil-gynhyrchion hyn o’n diwydiant bwyd wedi’u
cynhyrchu’n eitemau ffasiwn hardd, sydd ddim yn
effeithio’n negyddol ar ein planed. Ar yr un pryd
maen nhw’n gwneud y mwyaf o’r adnoddau sydd
eisoes yn cael eu defnyddio yn y broses gynhyrchu
bwyd.
Mae llawer o’r atebion byd-eang i’r argyfyngau
hinsawdd a bioamrywiaeth wedi’u datblygu o
ddychymyg gwyllt a rhai syniadau rhyfeddol. Rydyn ni’n gwybod bod
gan bobl ifanc ddychymyg di-ben-draw a syniadau gwych! Rydyn ni’n
eich gwahodd i rannu unrhyw un o’ch dyfeisiadau, lluniau, dyluniadau, a
gweledigaethau o atebion ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Bydden ni wrth ein
boddau yn eu rhannu yn ein cylchlythyr nesaf felly byddwch yn greadigol
a’u hanfon atom!