Page 28 - Beth am fynd i'r afael a sbwriel
P. 28
4.7
Sbwriel bwyd brys (parhad)
Gweithredoedd: Bwrw Ati
A oes gan eich ysgol broblem sbwriel yn
ymwneud â bwyd brys? Sut mae’n cyrraedd yno?
Cyflwynwch syniad i fynd i’r afael â’r broblem,
monitrwch a rhannwch y canlyniadau.
Ymchwiliwch ddewisiadau amgen i’r pecynnau
plastig neu gynwysyddion tafladwy y mae’r
disgyblion yn eu defnyddio. Crëwch daflen
wybodaeth i’r disgyblion fynd adref a rhowch hi ar
y wefan.
Cynhaliwch archwiliad o sbwriel bwyd brys yn eich
cymuned leol. Faint allwch chi ddod o hyd iddo ac
o ble mae wedi dod?
Ysgrifennwch at eich cadwyn bwyd brys lleol yn
gofyn iddynt leihau pecynnau diangen neu gynnig
ysgogiad e.e. gostyngiad i’r rheiny sy’n dychwelyd
eu pecynnau.
A yw eich ysgol yn dosbarthu gwellt plastig? A oes
eu hangen? Ymchwilio i’r problemau y maent yn eu Gwefan Cadwch Gymru’n Daclus
hachosi a gwnewch addewid ysgol gyfan i ddod yn
ysgol frech gwellt plastig. Clymblaid Llygredd Plastig – ‘Cymerwch
yr Addewid Dim Gwelltyn Plastig’