Page 4 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 4

Prif Gyflawniadau yn 2017-18








                         Buddsoddi                               Ymchwil a Chyhoeddiadau



                     £6.5+                                                  150+




                          MILIWN



                 Buddsoddwyd mwy na £6.5                               Cyflawnwyd mwy na 150 o
                miliwn o’r tu allan i Gymru yn                        gyhoeddiadau ymchwil, gan
              iechyd y boblogaeth, gan arwain                      ddarparu sylfaen o dystiolaeth ar
                at fwy o ymchwil i ymyriadau                        gyfer polisïau, gwasanaethau ac
                 sy’n gwella iechyd a llesiant                      ymyriadau iechyd y boblogaeth.
                      poblogaeth Cymru.




                        Cydweithio                              Cyfathrebu â Chynulleidfa

                                                                             Ehangach


                                                                               








               Daliwyd ati i gydweithio gyda’n                   Buom yn cynyddu ymwybyddiaeth
         partneriaid o fyd ymchwil, y Gwasanaeth                o NCPHWR fel canolfan arbenigedd
              Iechyd Gwladol, y trydydd sector,                      ym maes ymchwil ar iechyd
              llunwyr polisi ac ymarferwyr, gan                       y boblogaeth, gan beri i’n
          weithio gyda’n gilydd i roi canfyddiadau               canfyddiadau ddylanwadu ar bolisi
             ar waith er mwyn helpu ein gwaith                   ac ymarfer ar draws awdurdodau
          ymchwil i wneud gwahaniaeth y tu hwnt                      lleol a Llywodraeth Cymru.
                      i’r byd academaidd.


         Eleni, mae NCPHWR wedi parhau i ganolbwyntio ar gydweithio, gan ddod â’r byd
         academaidd, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y trydydd sector, llunwyr polisi ac
         ymarferwyr ynghyd i annog ceisiadau ar gyfer ymchwil newydd a chyffrous.

         Rydym yn parhau i dderbyn cyllid allanol sylweddol drwy gymorth y seilwaith
         ymchwil yng Nghymru. Yn fwy nag erioed, rydym yn cyfathrebu â chynulleidfa
         ehangach trwy ymwneud yn fwy â’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy ein llwyddiant
         parhaus wrth gyhoeddi ein hymchwil. Yn olaf, rydym wedi parhau i ymgysylltu â’r
         cyhoedd a’u cynnwys yn ein gwaith er mwyn cynyddu effaith ein hymchwil.
   1   2   3   4   5   6   7   8   9