Page 8 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 8

Pecynnau Gwaith | Datblygiad Iach



























         Plant a Phobl

                Ifanc







              Gwneir ymchwil i ddarparu a gwerthuso ymyriadau
              cymorth cyn-geni, ymyriadau addysg blynyddoedd
              cynnar, ac ymyriadau ysgol gynradd ac ysgol                             “Mae prosiect
              uwchradd, sy’n sail i’n gwaith gyda phlant a phobl                      HAPPEN wedi dyfnhau
              ifanc.                                                                  ymwybyddiaeth
                                                                                      disgyblion o
                                                                                      bwysigrwydd ymarfer
                  Effaith yr Ymchwil                                                  corff ac, mewn
                                                                                      ymgynghoriad â’r cyngor
                     •  Dangosodd ein hadolygiad systematig NAD oedd                  ysgol, rydym wedi
                     gwelliannau i wasanaethau iechyd yn gwella                       datblygu ein meysydd
                     canlyniadau datblygiad plant i blant tair oed a iau.             chwarae awyr agored
                                                                                      ymhellach.
                     •  Gweithiodd rhwydwaith HAPPEN i recriwtio mwy                                         ”
                     na 4,000 o ddisgyblion o 100 o ysgolion cynradd,
                     gan ddarparu gwybodaeth am ffitrwydd a llesiant                  Pennaeth Ysgol Gynradd,
                     disgyblion i’w hysgolion ac i lywodraeth leol. Mae               Abertawe
                     hyn wedi helpu i nodi meysydd iechyd a llesiant i’w
                     blaenoriaethu.  Ymhlith y canfyddiadau, gwelwyd
                     bod 50% o fechgyn a 40% o ferched yn gorfforol ffit.
                                                                                      “Mae ein haelodaeth
                     •  Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion                 o SHRN yn caniatáu i’n
                     (SHRN) wedi cynyddu nifer yr ysgolion uwchradd                   hysgol gael mynediad at
                     y mae’n cysylltu â nhw; bellach, mae’n gweithio                  wybodaeth a chymorth
                     gyda 100% o’r ysgolion a gynhelir a mwy na 100,000               ymchwil diweddar a
                     o ddisgyblion yng Nghymru, gan ddarparu data i
                     lywio gweithgareddau cynllunio pob ysgol unigol                  pherthnasol. Gallwn
                     trwy ddarparu proffiliau ysgol wedi’u haddasu a’u                ddefnyddio’r rhain i
                     meincnodi ddwywaith y flwyddyn. Canlyniad hynny                  lywio ffocws ein hysgol
                     yw bod SHRN yn dylanwadu ar bolisi mewn nifer                    ar iechyd a llesiant.
                     sylweddol o ysgolion.                                                                   ”
                                                                                      Pennaeth Cynorthwyol,
                                                                                      Gogledd Cymru

          3
   3   4   5   6   7   8   9   10   11   12   13