Page 11 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 11
Themâu Trawsbynciol
Gofal
Cymdeithasol
Mae Ymchwil Gofal Cymdeithasol yn thema drawsbynciol yn y Ganolfan, ac yn sail
i’w holl feysydd gwaith. Mae’r Ganolfan yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr o
ganolfannau eraill sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol, gan gynnwys Ysgol Ymchwil
Gofal Cymdeithasol Cymru (WSSCR) ac Uned Ymchwil Arennau Cymru, yn ogystal
â byrddau iechyd, awdurdodau lleol a sefydliadau o’r trydydd sector fel Cyngor
Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Eleni, roedd cynnal Dadansoddiad o Asesiadau Anghenion Poblogaeth 22 awdurdod
lleol yn rhan allweddol o waith y Ganolfan, gan nodi meysydd sy’n flaenoriaeth ar
draws awdurdodau Cymru ynghyd â’r bylchau presennol mewn ymchwil a data.
Lluniwyd saith set o adroddiadau i gyd, ac roedd y themâu’n cynnwys:
• plant a phobl ifanc • cam-drin domestig a thrais rhywiol
• pobl hŷn, iechyd/anableddau • gwasanaethau eiriolaeth
corfforol • ceiswyr lloches a ffoaduriaid
• anableddau dysgu ac awtistiaeth • digartrefedd
• iechyd meddwl • camddefnyddio sylweddau
• namau ar y synhwyrau • cyn-filwyr
• gofalwyr sydd angen cymorth
O ganlyniad, nodwyd nifer o feysydd blaenoriaeth Cymru gyfan yr oedd gofyn e
gwella, gan gynnwys dealltwriaeth y cyhoedd, canolbwyntio ar y cleient, pontio,
cyngor a chymorth.
Mae awdurdodau lleol yn defnyddio canfyddiadau’r adroddiadau hyn i lunio
cynlluniau gweithredu er mwyn symud ymlaen. Gwnânt hynny trwy droi llawer o’r
awgrymiadau a’r dyheadau o ran gwelliant y tynnwyd sylw atynt yn y gwerthusiad,
yn gamau gweithredu pendant. Ar ddiwedd ail gam y gwaith dadansoddi, gellir rhoi’r
camau ar waith gyda gwaith dilynol ynghylch sut gallai NCPHWR gyfrannu orau at y
cynlluniau hyn.
6

