Page 14 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 14

Cyfathrebu â Chynulleidfa Ehangach








                                                                   Lansio Gwefan Newydd

                                                                   Ym mis Mawrth 2018, lansiodd y
                                                                   Ganolfan ei gwefan ddwyieithog
                                                                   newydd.

                                                                   Mae’r nodweddion allweddol yn
                                                                   cynnwys ‘Astudiaethau Achos’,
                                                                   ‘Prosiectau Cyfredol’, ‘Cyfeirlyfr
                                                                   Ymchwilwyr’ a ‘Newyddion a
                                                                   Digwyddiadau’. I annog ymgysylltu
                                                                   parhaus, mae gan y wefan newydd
                                                                   ffurflen ‘Cysylltwch â Ni’ ar gyfer
                                                                   ymholiadau ynghylch cydweithio a
                                                                   chyfle i’r cyhoedd gofrestru i dderbyn
                                                                   e-newyddlen.

                                                                   Mae gwefan NCPHWR wrth wraidd
                                                                   strategaeth gyfathrebu newydd y
                                                                   Ganolfan, sydd â’r nod o ymgysylltu
                                                                   mwy â’r gymuned ymchwil a’r cyhoedd
                                                                   yn fwy cyffredinol.





          Ymchwilwyr NCPHWR yn dod
          yn awduron fel rhan o The
          Conversation yn y Deyrnas Unedig

          Trwy gydol y llynedd, bu ymchwilwyr
          NCPHWR yn llais arbenigol oedd yn
          annerch cynulleidfa fyd-eang.


          Mae gan wefan The Conversation fwy
          na 100 miliwn o ddarllenwyr ac mae’r
          cynnwys o’r Deyrnas Unedig yn derbyn
          8 miliwn cais darllen y mis.

          Mae erthyglau a gyhoeddwyd ynghylch
          ein hymchwil wedi derbyn mwy na
          10,000 o drawiadau yn y Deyrnas
          Unedig ac o amgylch y byd. Mae
          ein cyhoeddiadau ar wefan The
          Conversation yn dangos effaith ein
          hymchwil, ar lefel genedlaethol a
          rhyngwladol.




          9
   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19