Page 16 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 16

Cyfathrebu â Chynulleidfa Ehangach




















                                  Dylanwadu ar Bolisi


                                  Trwy gydol y flwyddyn, mae NCPHWR wedi cyflawni nifer o
                                  weithgareddau gyda’r nod o ddylanwadu ar bolisi.

                                  Gwahoddwyd academyddion o’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd
                                  Mewn Ysgolion (SHRN) i ymuno â’r Bwrdd Cynghori Sefydliadau
                                  Addysg ar Weithredu Polisïau Iechyd mewn Ysgolion a hefyd
                                  Grŵp Atal y Bwrdd Cyflawni ar Reoli Tybaco. Mae SHRN hefyd
                                  yn gweithio gydag Ysgolion Arloesi Llywodraeth Cymru i roi dull
                                  gweithredu seiliedig ar dystiolaeth ar waith i wella’r effeithiau
                                  ar iechyd disgyblion.


                                  Ym mis Mawrth, rhoddodd Simon Murphy, Dirprwy Gyfarwyddwr
                                  y Ganolfan, dystiolaeth arbenigol i Bwyllgor Iechyd, Gofal
                                  Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad Cenedlaethol Cymru
                                  gan drafod cyflwr iechyd a llesiant plant. Bydd y dystiolaeth a
                                  ddarparwyd  yn cael ei defnyddio nawr i lywio polisi.




          Gweithio gyda’r GIG


          Mae gallu’r Ganolfan i werthuso data cymhleth sy’n ymwneud â’r cyhoedd a
          chleifion ar draws Cymru yn golygu bod ein gwaith yn arbennig o ddefnyddiol i’r GIG.
          Cynhyrchir llawer o’r cynigion ariannu a’r prosiectau ymchwil ar y cyd â chlinigwyr,
          rheolwyr a staff gwybodeg y GIG. Nod cyfran sylweddol o’n gwaith ymchwil yw
          darganfod atebion y gall y GIG eu defnyddio, naill ai i wella gwasanaethau neu i
          ddeall yn well sut y gall ymddygiad effeithio ar y ffordd y bydd cleifion yn defnyddio
          ysbytai a gwasanaethau iechyd yn y gymuned.

          Defnyddiodd tîm Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
          ddata ymchwil a gynhyrchwyd gan rwydwaith HAPPEN i lywio’i gynllun gwaith ar
          wella iechyd meddwl plant.

          Mae ymchwilwyr NCPHWR, gan gefnogi Cydweithrediaeth GIG Cymru, wedi
          creu dangosyddion amser teithio gan ddefnyddio mapiau System Gwybodaeth
          Ddaearyddol (GIS) i helpu GIG Cymru i drosi data y gellir eu defnyddio i ddeall
          tueddiadau ymddygiad yn well.




          11
   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21