Page 21 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 21

Genedigaeth Gynnar a Pherygl Gorfod Mynd i’r
                   Ysbyty Oherwydd Problemau Anadlu

























              Ymchwiliodd tîm o Sefydliad NCPHWR y cysylltiad rhwng perygl gorfod mynd i’r ysbyty ar frys
              oherwydd problemau anadlu yn ystod plentyndod a genedigaethau cyn pryd.



              Yr Her                                               Y Canlyniadau
              Mae geni cyn pryd, sef pan fydd baban yn             Dangosodd canlyniadau’r astudiaeth fod
              cael ei eni’n gynnar cyn diwedd 37 wythnos o         perygl gorfod mynd i’r ysbyty oherwydd
              feichiogrwydd, yn gysylltiedig â phroblemau          problemau anadlu yn lleihau bob wythnos
              anadlu, nam twf a datblygiad yr ymennydd             hyd at 40 i 42 wythnos; sy’n golygu bod
              neu’r system nerfol ganolog, a gall effeithio        llai o risgiau iechyd i fabanod a enir yn
              ar ganlyniadau addysgol. Mae cyfraddau               ddiweddarach yn y beichiogrwydd.
              geni cyn pryd wedi cynyddu yn ystod y 10
              mlynedd diwethaf ac mae’r effeithiau tymor           Hyd yn oed ar 39 wythnos, roedd perygl uwch
              hir a’r goblygiadau i iechyd yn achos pryder i       o orfod mynd i’r ysbyty ar frys oherwydd
              feddygon ac iechyd cyhoeddus.                        problemau anadlu o gymharu â babanod a
                                                                   anwyd rhwng 40 a 42 wythnos.
              Yr Ymchwil
              Mae llawer o astudiaethau wedi canolbwyntio          Yr Effaith
              ar fabanod a anwyd cyn 32 wythnos, ond               Yn bwysig, dangosodd yr ymchwil faint o
              ychydig o astudiaethau sy’n ymwneud â                wybodaeth gyfoethog y gellir ei chael o
              babanod a anwyd rhwng 34 a 36 wythnos.               astudio cofnodion iechyd cysylltiedig ar
              Astudiodd y prosiect ymchwil hwn                     raddfa fawr i archwilio achosion clefyd
              enedigaethau yn amrywio o 32 wythnos hyd             a defnydd o ofal iechyd mewn plant, yn
              at 42 wythnos o feichiogrwydd.                       enwedig wrth ganolbwyntio ar oedran geni.

              Astudiodd yr ymchwilwyr gofnodion iechyd ar          Trwy ddefnyddio data wrth ymchwilio, mae’r
              gyfer 318 613 o blant a anwyd yng Nghymru            tîm wedi gallu gwella ein dealltwriaeth o
              rhwng 1998 a 2008. Gwnaed y cofnodion hyn            nifer y babanod yr effeithir arnynt. Mae nifer
              yn ddienw fel na ellid adnabod unigolion.            y plant iau na 5 oed a chanddynt broblemau
                                                                   anadlu sy’n gysylltiedig â genedigaeth gynnar
              Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar                      yn sylweddol fawr ac felly’n cael effaith ar
              dderbyniadau brys i’r ysbyty oherwydd                wasanaethau iechyd a chostau i’r GIG.
              problemau anadlu mewn plant hyd at 5 oed.






                                                                                                                 16
   16   17   18   19   20   21   22   23   24