Page 18 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 18
Ymgysylltu a Chynnwys y Cyhoedd
Digwyddiadau Cyhoeddus
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cymerodd
NCPHWR ran mewn nifer o ddigwyddiadau
ymgysylltu â’r cyhoedd ledled Cymru. Bu
hwn yn gyfle unigryw i ymgysylltu a rhannu
ein hymchwil a chanfyddiadau ein hymchwil
gyda’r cyhoedd. Roedd y digwyddiadau y bu
staff y Ganolfan ynddynt yn amrywio o wyliau
gwyddoniaeth i gyflwyno darlithiau.
Un o uchafbwyntiau’r calendr digwyddiadau
oedd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe 2017 a oedd
yn canolbwyntio ar deuluoedd. Cynhaliwyd
yr ŵyl rhwng 8 a 10 Medi yn Amgueddfa’r
Glannau, gan ddenu 9,000 o ymwelwyr dros y
ddau ddiwrnod.
Ym mis Mawrth 2017, daeth mwy na 1,900 o
ymwelwyr i’r “Sadwrn Gwyddonol Gwych”,
digwyddiad arall a oedd yn canolbwyntio ar
deuluoedd.
Gadewch i ni Siarad am Ddata
Yng Ngorffennaf 2017, lansiwyd arolwg ‘Gadewch
i ni Siarad am Ddata’ gan Swyddog Ymgysylltu
â’r Cyhoedd NCPHWR. Nod yr arolwg oedd gofyn
barn pobl Cymru ar ddefnyddio data di-enw ar
gyfer ymchwil feddygol. Dosbarthwyd yr arolwg
trwy lawer o gyfryngau cymunedol gwahanol,
gan gynnwys grwpiau gwirfoddol lleol, Panel
Defnyddwyr Cronfa Ddata SAIL ac yn ystod
digwyddiadau cymunedol mewn ysbytai lleol. Mae’r
arolwg, a dderbyniodd fwy na 100 o ymatebion,
wedi dod i ben bellach ac unwaith y bydd y data
wedi’u dadansoddi, byddant yn darparu sylfaen o
dystiolaeth ar gyfer y strategaeth ymgysylltu â’r
cyhoedd yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
13

