Page 19 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 19
Panel y Cyhoedd
Mae ymgysylltu â’r cyhoedd yn
rhan annatod o broses ymchwil
NCPHWR. Mae pob aelod o
NCPHWR yn deall gwerth
ymgysylltu â’r cyhoedd, ac mae’n
gyffredin bellach fod aelodau
o’r cyhoedd yn cael eu cynnwys
fel partneriaid mewn prosiectau
ymchwil, gyda mwy o geisiadau yn
cael eu gwneud ar y cyd.
Mae gan NCPHWR fynediad at Banel Defnyddwyr Cronfa Ddata SAIL, sef panel
sy’n cynnwys 16 aelod o’r cyhoedd ac sy’n fwrdd ymgynghorol i ymchwilwyr. Yn
ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae ymchwilwyr NCPHWR wedi cysylltu â’r panel
nifer o weithiau ar gyfer prosiectau sy’n cynnwys: prosiect Mannau Glas a Gwyrdd
a gyllidwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd (NIHR).
Ymgynghorodd y prosiect Mannau Glas a Gwyrdd â’r panel yng nghamau cynharaf
proses ddylunio’r prosiect a rhoddodd y Panel gyngor ac arweiniad o ran y budd i’r
cyhoedd a sut gellid creu llwybr effeithiol i ymgysylltu â’r cyhoedd. Ers yr ymgynghori
cychwynnol hwn, mae’r prosiect wedi cael ei gymeradwyo. Bellach, mae trefniadau
wedi’u gwneud i’r prosiect ymgynghori â’r Panel yn y dyfodol.
Panel Ieuenctid
Mae barn pobl ifanc yn allweddol o ran
llywio gwaith ymchwil NCPHWR. Gofynnir eu
barn trwy ALPHA, sef y Grŵp Ymgynghorol
Pobl ifanc yn DECIPHer (y Ganolfan Datblygu
a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er
mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd), sef un o’r
canolfannau sy’n cydweithio â NCPHWR.
Mae ALPHA yn llwyfan gwych ar gyfer
datblygu ymchwil sy’n berthnasol i ieuenctid heddiw. Mae cyfle i’r cyfranogwyr ifanc
wneud cyfraniad gwirioneddol i bolisïau iechyd y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig a
dysgu technegau ymchwil a fydd yn ehangu eu profiadau ac yn gwella’u rhagolygon
o ran swyddi. Mae’r grŵp yn cynghori ein hymchwilwyr trwy drafod a rhoi barn ar
faterion iechyd y cyhoedd a’r gwaith ymchwil mae’r Ganolfan yn ei wneud.
14

