Page 22 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 22
Diweddglo
Yn ystod 2 flynedd cyntaf NCPHWR, buom yn canolbwyntio ar greu’r seilwaith i
sicrhau bod y Ganolfan yn cyflawni ei chylch gorchwyl, sef cyflawni ymchwil arloesol
er mwyn gwella iechyd a llesiant pobl Cymru. Eleni, rydym wedi parhau i gymryd
camau sylweddol ymlaen o ran cyflawni’r nod hwn.
Wrth symud ymlaen i’n pedwaredd flwyddyn, bydd ein hymchwil yn cynhyrchu
canfyddiadau sy’n dangos effaith, gan gefnogi ein nod o wella iechyd a llesiant plant
a phobl ifanc a darparu’r wybodaeth i helpu pobl Cymru i fyw bywydau hwy a mwy
iach. Byddwn yn canolbwyntio bellach ar ddangos effaith barhaus ein hymchwil.
Cael Effaith
Mae ein seilwaith ymchwil unigryw yng Nghymru wedi’n galluogi i ddenu mwy na
£6.5 miliwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae dawn y Ganolfan i ddenu cyllid o’r
tu allan i Gymru yn caniatáu i ni feithrin a chynyddu ein gallu i gyflawni’r ymchwil
arloesol sydd ar waith. Mae’r cyllid a dderbyniwyd yn dangos bod Cymru’n arwain y
ffordd o ran iechyd y boblogaeth.
Cydweithio a Phartneriaethau
Bydd y Ganolfan yn parhau i ddod ag academyddion, y GIG, y trydydd sector,
llunwyr polisi ac ymarferwyr ynghyd i gydweithio ar yr ymchwil sydd ar waith ac ar
brosiectau newydd yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
Bydd cynnwys cleifion a’r cyhoedd yn ein hymchwil yn cynyddu er mwyn sicrhau
ei bod yn parhau’n berthnasol ac yn ddefnyddiol. Er mwyn gwneud hynny, bydd
y Ganolfan yn rhoi’r safonau newydd o ran cynnwys cleifion a’r cyhoedd ar waith.
Bydd y safonau hyn yn llywio dull y Ganolfan o ymgysylltu a chyd-gynhyrchu.
Cyfathrebu â Chynulleidfa Ehangach
Rydym wedi rhoi mwy o amlygrwydd i’r Ganolfan yng Nghymru a’r tu hwnt trwy
gynyddu’r sylw i’r Ganolfan trwy’r cyfryngau cymdeithasol, a byddwn yn parhau i
fanteisio ar gyfleoedd i ledaenu ein hymchwil trwy wahanol lwyfannau’r cyfryngau
cymdeithasol.
Dylanwadu ar Bolisi
Unwaith eto, mae ein rhwydwaith ymchwil ysgolion cynradd (HAPPEN) a’n
rhwydwaith ysgolion uwchradd (SHRN) wedi cynhyrchu canfyddiadau ymchwil
sy’n llywio darpariaethau mewn ysgolion ac awdurdodau lleol a byddant yn
parhau i ddarparu tystiolaeth i gyflawni hynny. Trwy ddarparu tystiolaeth
arbenigol, mae ein hymchwil wedi llywio penderfyniadau polisi ym mhob rhan
o’r Llywodraeth. Bydd y cysylltiadau a ffurfiwyd â llunwyr polisi yn parhau trwy
ein rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth, gyda’r nod o ledaenu ein hymchwil er
mwyn llywio polisi.
I grynhoi, byddwn yn parhau i ddarparu canfyddiadau sy’n dangos sut mae ein
hymchwil yn cefnogi’r uchelgais i adeiladu Cymru ffyniannus, ddiogel, iach a
gweithgar.
17

