Page 17 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 17

Gweithio gyda Chanolfannau Ymchwil eraill


              Un o weithgareddau allweddol NCPHWR yw cydweithio ar wahanol brosiectau
              ymchwil yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae gweithio
              gyda seilweithiau ymchwil allweddol eraill yng Nghymru yn caniatáu defnyddio
              arbenigedd er budd poblogaeth  Cymru.

              Mae partneriaeth allweddol rhwng NCPHWR a DECIPHer (y Ganolfan Datblygu a
              Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd) wedi parhau,
              gydag ymchwilwyr NCPHWR yn cefnogi’r gwaith y mae DECIPHer yn ei wneud i
              archwilio’r ffactorau risg lluosog sy’n effeithio ar bobl ifanc sydd â phroblemau fel
              camddefnyddio sylweddau.


              Mae ymchwilwyr o’r Ganolfan yn ffurfio partneriaeth strategol gyda CASCADE
              (Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant) i nodi meysydd lle gellir
              cydweithio i wella capasiti ymchwil gofal cymdeithasol yng Nghymru.

              Mae’r cydweithio rhwng NCPHWR a’r Ganolfan Treialon Ymchwil wedi parhau,
              gydag ymchwilwyr o’r Ganolfan yn archwilio pa mor ymarferol a derbyniol fyddai
              cael cyfeillion cefnogol i helpu mamau ifanc a mamau sy’n byw mewn ardaloedd
              difreintiedig i fwydo ar y fron am gyfnod hwy.









                                                                                                                 12
   12   13   14   15   16   17   18   19   20   21   22