Page 15 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 15

Cyfathrebu â Chynulleidfa Ehangach








          Lansio prosiect ACTIVE

          Y llynedd lansiwyd prosiect ACTIVE, a
          ariannwyd gan Sefydliad Prydeinig y
          Galon (BHF) gyda chymorth NCPHWR.

          Cyfwelwyd â Rheolwr Treialon
          y Prosiect, Michaela James a
          Phennaeth Sefydliad Prydeinig y
          Galon, Ruth Coombs ar ITV Wales a
          Bay TV.  Darlledwyd cyfweliadau radio
          ar raglen Good Morning Wales BBC
          Radio Wales, ar raglen Taro’r Post
          BBC Radio Cymru ac ar orsaf radio
          leol The Wave 96.4FM.                                                       Aelodau o Brosiect ACTIVE yn
                                                                                          stiwdios BBC Radio Wales
          Nod y prosiect yw gweld a fydd rhoi
          talebau i bobl ifanc yn eu harddegau, i’w gwario ar weithgareddau o’u dewis, yn
          gallu lleihau eu hamser eistedd, gwella eu lefelau ffitrwydd, lleihau risg clefyd y
          galon a gwella’u hiechyd yn gyffredinol.






















             Ymchwil i Ofal sy’n Pontio Cenedlaethau

             Roedd Hen Blant Bach, cyfres deledu ysbrydoledig
             ar gyfer S4C, yn rhoi sylw i brosiect cymdeithasol
             unigryw oedd yn ceisio dod â phlant cyn-ysgol a
             phensiynwyr at ei gilydd ac ymchwilio i ofal sy’n
             pontio’r cenedlaethau.

             Bu’r rhaglen yn fodd i dîm o Brifysgol Bangor
             gynnal ymchwil i effaith y tri diwrnod ar y plant, yr
             oedolion a’r staff sy’n gysylltiedig â’r sefydliadau.

             Yn dilyn enwebiad, cyrhaeddodd y gyfres deledu
             rownd derfynol Gwobrau Gŵyl Ffilm a Theledu
             Rhyngwladol Efrog Newydd.

                                                                                                                 10
   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20