Page 10 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 10

Pecynnau Gwaith | Heneiddio’n Iach

























              Oedolion
               Agored
             i Niwed a
         Chynnal Iechyd
             a Llesiant




          Mae’r Ganolfan yn gwneud gwaith ymchwil ar amrywiaeth o wahanol heriau sy’n
          effeithio ar oedolion a allai olygu eu bod yn cael eu nodi fel oedolion agored i
          niwed. Mae’r heriau hyn yn amrywio o gyflyrau iechyd cronig fel arthritis a dementia
          ac oedolion ag anabledd deallusol, i feichiau anhwylderau a chamddefnyddio
          sylweddau. Nodir yr heriau hyn gan ddefnyddio cofnodion iechyd cysylltiedig
          (cofnodion meddygon teulu a chofnodion ysbytai) i gael golwg ar wybodaeth
          iechyd hir-dymor a gesglir trwy raglen Doeth am Iechyd Cymru a’i dadansoddi gan
          ddefnyddio cronfa ddata SAIL. Gwneir ymchwil hefyd i nodi ymyriadau a all helpu
          oedolion i gynnal eu hiechyd a’u llesiant trwy wella’r amgylcheddau lle maen nhw’n
          byw.





             Effaith yr Ymchwil

                • Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos bod gwiriadau iechyd i oedolion ag anabledd
                 deallusol yn gostwng cyfraddau marwolaeth (o gymharu â’r rheiny sydd heb gael
                 gwiriadau iechyd), yn enwedig yn achos pobl sydd ag awtistiaeth.
                • Mae gwaith i archwilio meddyginiaethau sy’n gysylltiedig â dementia yn dangos bod
                 meddyginiaethau ar gyfer pwysedd gwaed uchel a gwrthgeulyddion yn gysylltiedig
                 â llai o risg o ddementia, ond bod cyffuriau gwrthiselder a gwrthblatenau yn
                 gysylltiedig â risg uwch o ddementia.
                • Dangosodd astudiaeth hydredol o dderbyniadau brys i ysbytai sy’n gysylltiedig ag
                 ymyriadau tai nad ydynt yn digwydd ar hap fod modd osgoi derbyn pobl i’r ysbyty
                 trwy wella safonau ansawdd cartrefi cyfan yn unol â safonau ansawdd tai Cymru.

                • Rydym yn gweithio gydag ENRICH Cymru a Fy Mywyd Mewn Cartref (My Home Life)
                 Cymru, ynghyd â byrddau iechyd lleol, i gefnogi pobl hŷn, yn enwedig drwy wneud
                 gwaith ymchwil mewn cartrefi gofal ac yn eu cylch.





          5
   5   6   7   8   9   10   11   12   13   14   15