Page 9 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 9
Pecynnau Gwaith | Datblygiad Iach
Plant
Agored i
Niwed
Gwneir ymchwil i nodi tueddiadau yn setiau data plant sy’n agored i niwed
a phlant sydd wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs).
Mae ymchwilwyr o’r Ganolfan hefyd yn darparu gwybodaeth arbenigol -
gan gynnal astudiaethau ynghylch Cam-drin Plant. Gwneir ymchwil hefyd i
awtistiaeth ac i wella iechyd plant sydd ag awtistiaeth.
Effaith yr Ymchwil
• Derbyniodd yr ymchwil i’r defnydd o gyffuriau gwrthseicotig
ymhlith plant sydd ag awtistiaeth sylw ryngwladol trwy wefan ‘The
” Conversation’. Gwelodd yr ymchwil hon dystiolaeth fod cyfraddau uwch
o epilepsi, diabetes a heintiau resbiradol sy’n galw am dderbyn i’r
ysbyty ymhlith pobl ifanc sy’n cymryd cyffuriau gwrthseicotig.
• Yn Chwefror 2018, trefnodd ymchwilwyr o’r Ganolfan symposiwm
rhyngwladol i drafod datblygu offer safonol i gefnogi casglu data
ynghylch Camdriniaeth Plant.
• Gwelodd ein hastudiaeth garfan fod y risg y bydd plant yn cael
eu derbyn i’r ysbyty fel achosion brys, oherwydd anafiadau ac
erledigaeth yn arbennig, yn cynyddu pan fydd anhwylderau meddwl a
chamddefnyddio alcohol yn y cartref. Mae’r canlyniadau’n dangos bod
angen mesurau polisi i gefnogi’r teuluoedd ifanc y mae hyn yn effeithio
arnynt.
”
4

