Page 6 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 6

Rhagair



          Croeso i drydydd adroddiad blynyddol y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer
          Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth (NCPHWR), sy’n trafod ei
          gweithgareddau yn ystod 2017-18.  Yn ystod y flwyddyn, mae’r Ganolfan wedi
          parhau i hyrwyddo’i chenhadaeth i wella iechyd a llesiant poblogaeth Cymru.


          I gyflawni hynny, rydym wedi parhau i alluogi llunio nifer fawr o gynigion
          ariannu llwyddiannus, gan sicrhau gwerth mwy na £6.5 miliwn o gyllid.


          Yn adroddiad y llynedd nodwyd sut roedd ein hymchwil yn cael effaith amlwg
          ar iechyd a meysydd eraill. Eleni, byddwn yn dangos canlyniadau ein hymchwil
          i faterion plant a phobl ifanc a heneiddio’n iach.


          Rydym ni’n gweithio i ddefnyddio ein canfyddiadau ymchwil o safon, sy’n
          seiliedig ar dystiolaeth, i lywio gwasanaethau cyhoeddus a phenderfyniadau
          gan y llywodraeth.


          Bydd yr adroddiad hwn yn trafod ein cynnydd yn ein prif feysydd ymchwil
          rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018.


          Diolch am gymryd amser i’w ddarllen, gobeithio y byddwch yn ei fwynhau.


          Bwrdd Gweithredol NCPHWR


















                  Yr Athro Ronan Lyons              Yr Athro Sinead                 Yr Athro Simon
                                                        Brophy                         Murphy
















                    Yr Athro Shantini             Yr Athro Jane Noyes              Dr Alisha Davies
                       Paranjothy



          1
   1   2   3   4   5   6   7   8   9   10   11