Page 12 - NCPHWR_Public_Report-2018-welsh-print_Neat
P. 12

Pecynnau Gwaith | Themâu Trawsbynciol



























         Trosglwyddo

          Gwybodaeth







          Nod y rhaglen waith Trosglwyddo Gwybodaeth yn y Ganolfan yw troi ein hymchwil yn fuddion y
          tu allan i’r byd academaidd. Mae’n gweithio i gynyddu lefel yr arfer seiliedig ar dystiolaeth trwy
          ledaenu canfyddiadau ymchwil a chynyddu nifer y prosiectau ymchwil cydweithredol newydd.

          Mewn ymgais i gefnogi Rhoi Gwybodaeth ar Waith, mae staff y Ganolfan wedi bod mewn cyfres
          o weithdai a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi rhwystrau o ran cael mynediad at
          wybodaeth ar draws y rhwydwaith iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r gweithdai hyn wedi dod â
          llunwyr polisi, ymarferwyr a chynrychiolwyr o’r trydydd sector ynghyd i drafod rhai o’r newidiadau
          a’r datrysiadau i’r broses hon.

          Mae’r Grŵp Gweithredu ar Gyfnewid Gwybodaeth (KEAG) a hwylusir gan Iechyd Cyhoeddus
          Cymru wedi parhau i gefnogi rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth y Ganolfan. Eleni eto, mae’r grŵp
          wedi dod â chynrychiolwyr ynghyd o’r cyrff canlynol:


             •  Llywodraeth Cymru (Ymchwil                        •  Y Gwasanaeth Tystiolaeth a Gwybodaeth
             Gymdeithasol) a Rhoi Gwybodaeth ar                   •  Gwasanaeth Cynnwys y Cyhoedd a
             Waith                                                Chleifion
             •  Cynulliad Cenedlaethol Cymru                      •  Canolfan Ansawdd a Hawliau Dynol y
             •  Gofal Cymdeithasol Cymru                          Gwasanaeth Iechyd Gwladol
             •  Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru                 •  DECIPHer (y Ganolfan Datblygu a
             •  Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru                Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn
             •  Y Gynghrair ar gyfer Tystiolaeth                  Gwella Iechyd y Cyhoedd)
             Ddefnyddiol                                          •  Sefydliadau trydydd sector



          Mae’r grŵp hwn yn parhau i ddarparu llwyfan ar gyfer trafodaethau a chydweithio er mwyn annog
          y broses hon o gyfnewid gwybodaeth. Dyma rai o ganlyniadau allweddol y gwaith hwn eleni:

             •  Gwahoddiad i ymchwilwyr y Ganolfan roi tystiolaeth arbenigol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
             •  Camau cychwynnol i ledaenu’r Adroddiad Dadansoddi Anghenion a luniwyd gan y Ganolfan
             gan nodi’r effaith ar y ddarpariaeth gofal cymdeithasol ar lefel awdurdodau lleol.




          7
   7   8   9   10   11   12   13   14   15   16   17