Page 2 - Spring_1_Welsh_Neat
P. 2
Llythyr gan ein golygydd gwadd
Treuliais i fy mhlentyndod yn chwilio o dan greigiau am nadroedd cantroed,
nadroedd miltroed, brogaod a llawer o greaduriaid anhygoel eraill. Llenwais i fy
niwrnodau’n dringo coed, adeiladu cuddfannau a gwylio moch daear yn bwyta
a chwarae. Dw i’n dal i wneud! Roeddwn i’n cerdded drwy’r parcdir ym Mhalas
Bleneheim yn syfrdanu ar y coed derw hynafol sy’n dal i dyfu. Roeddwn i’n
teimlo’n gysylltiedig â natur.
Mae hyn i gyd yn ymwneud â bioamrywiaeth. Dyma amrywiaeth bywyd
planhigion ac anifeiliaid ar y Ddaear. Gall fod yn gynefin enfawr fel Coedwig
Law’r Amason neu bwll mewn bwced bach ar diroedd eich ysgol. Dyma beth
sy’n gwneud archwilio bioamrywiaeth mor hygyrch i ni i gyd – ac rwy’n ei garu!
Dywedodd yr enwog David Attenborough
“Rhaid i bobl deimlo bod y byd naturiol yn bwysig a gwerthfawr a hardd a
rhyfeddol ac yn syndod ac yn bleser.”
Felly, beth am ddefnyddio’r geiriau hyn a’r syniadau yn y rhifyn hwn i annog ein
pobl ifanc i fynd allan i diroedd eu hysgolion ac archwilio’r byd naturiol, creu
cynefinoedd i greaduriaid mawr a bach, ond yn
bwysicach oll i gysylltu â natur?
Matthew Bunt - Swyddog Addysg
Pen-y-bont ar Ogwr, Castell Nedd Port
Talbot ac Abertawe