Page 5 - Spring_1_Welsh_Neat
P. 5
Llygredd
Mae ein gweithgareddau fel bodau dynol yn cyflwyno sylweddau i’r amgylchedd naturiol
sy’n peryglu anifeiliaid. Mae sylweddau megis cemegion mewn plaladdwyr a gwrtaith
sy’n cael eu defnyddio mewn amaeth yn gwneud eu ffyrdd i mewn i gadwyni bwyd a
dyfrffyrdd gyda chanlyniadau dinistriol.
Mae llygredd plastig yn broblem arall i anifeiliaid ar y tir ac yn y cefnforoedd, gan fod
creaduriaid yn cael eu dal ynddo neu ei fwyta.
Gallem atal plastigau ac eitemau eraill rhag cyrraedd yr amgylchedd drwy leihau ein
defnydd o blastigau un-tro a thrwy sicrhau bod ein holl sbwriel yn mynd i mewn i’r bin
cywir. Gallem hefyd fwyta mwy o fwyd sydd wedi’i gynhyrchu’n organig i leihau’r galw
am blaladdwyr a gwrtaith artiffisial.
Newid hinsawdd
Mae newidiadau yn yr hinsawdd yn cael effaith ar y we fwyd a cyd-ddibyniaeth
rhywogaethau ar ei gilydd.
Gall newidiadau tymor hir mewn tymheredd gael effaith enfawr ar allu rhai
planhigion i dyfu sydd yn ei dro yn cael effaith ar unrhyw anifeiliaid sydd yn yr un
gadwyn fwyd.
Mae cymhlethdod ecosystemau hefyd yn golygu y gall newidiadau yn yr hinsawdd
wneud amodau yn fwy ffafriol ar gyfer plâu ac afiechydon a all fod yn ddinistriol i
rywogaethau eraill.
Drwy gymryd camau i leihau ein cyfraniad tuag at newid hinsawdd, rydym hefyd
yn helpu i warchod yn erbyn colli bioamrywiaeth.