Page 4 - Spring_1_Welsh_Neat
P. 4
Beth yw
Bioamrywiaeth yw’r enw rydym yn rhoi i’r amrywiaeth o’r holl fywyd ar y
ddaear, sy’n cynnwys planhigion, bacteria, ffyngau, pryfed, adar, mamaliaid a
phob peth byw arall.
Mae bioamrywiaeth yn cael ei golli ar raddfa sy’n gyflymach nag erioed yn hanes dynol
ac mae astudiaeth gan yr Amgueddfa Hanes Naturiol yn dangos bod y DU wedi colli tua
hanner o’i fioamrywiaeth ers dechrau’r chwyldro diwydiannol.
Mae’r ffigwr byd-eang yn dangos colled o tua 25% - edrychwch ar y map hwn sy’n
dangos maint y broblem yn fyd-eang.
Beth yw’r problemau?
Colli cynefinoedd
Mae anifeiliaid yn colli eu cynefinoedd; mae pobl yn cymryd mwy a mwy o le ar y ddaear
ac yn newid y dirwedd naturiol er mwyn casglu adnoddau a thyfu cnydau i fwydo ein
gofynion cynyddol.
Rydym hefyd yn cymryd mwy o dir i ehangu ein trefi, dinasoedd, ffyrdd a nifer o bethau
eraill i gefnogi ein ffordd o fyw.
Mae creu lle i natur yn ein cymunedau yn ffordd dda i helpu i adfer rhai o’r cynefinoedd
sydd wedi’u colli.