Page 6 - Spring_1_Welsh_Neat
P. 6

Gorbysgota

      Rydym yn gwybod bod ein galw am bysgod a chregyn bysgod yn rhoi pwysau enfawr
      ar boblogaethau bywyd morol. Mae hyn yn cael effaith ar ecosystemau cyfan yn y

      cefnforoedd, oherwydd yn union fel ar y tir, mae anifeiliaid morol yn dibynnu ar eu gilydd
      i oroesi yn eu byd tanddwr rhyng-gysylltiedig.



      Dylen ni wneud yn siŵr ein bod ond yn bwyta pysgod o boblogaethau cynaliadwy sydd
      wedi cael eu dal mewn ffordd nad yw’n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd

      morol a rhywogaethau eraill a allai gael eu dal ar ddamwain.
      Mae chwilio am logo’r MSC ar unrhyw bysgod rydych yn eu

      prynu neu eu dewis mewn bwyty yn lle da i ddechrau.











      Rhywogaethau Goresgynnol

      Wrth i bobl gytrefi a datblygu gwareiddiadau ar draws y

      byd, mae planhigion ac anifeiliaid wedi cael eu cyflwyno i
      lefydd nad oedden nhw erioed wedi bod o’r blaen. Weithiau
      mae hyn ar bwrpas (e.e. Rhododendron) ac weithiau mae’n

      ddamweiniol (e.e. Cacynen Asiaidd). Mewn rhai achosion
      mae’r rhywogaeth newydd yn gwneud mor dda yn ei amgylchedd

      newydd ei fod yn cael effaith negyddol ar y fioamrywiaeth frodorol.


                         Gall gwneud ymchwil cyn prynu planhigion i’n gerddi a’n pyllau helpu i

                             sicrhau nad ydyn ni’n cyflwyno rhywogaethau goresgynnol anfrodorol
                                i’r amgylchedd lleol. Gallem hefyd helpu i adnabod ac adrodd ar

                                  rywogaethau dinistriol fel y Gacynen Asiaidd yma.
   1   2   3   4   5   6   7   8   9   10   11