Page 9 - Spring_1_Welsh_Neat
P. 9
Derbyniodd Ysgol Gynradd Gymunedol Johnston becyn datblygu gyda 40 metr
sgwâr o dywarchen blodau gwyllt a 105
o goed bywyd gwyllt.
Cafodd y dywarchen ei gosod ar
gylchfan yn y maes parcio a oedd gynt
yn laswellt yn unig. Nid oedd llawer o fuddion i bryfed peillio a bioamrywiaeth yno.
Cafodd y coed eu plannu fel clawdd ar hyd ymyl y cae. Bydd hyn yn gweithredu fel
coridor bywyd gwyllt sydd wedi’i gysylltu ag ardal goetir ar waelod y safle, felly bydd
o fudd i adar, ystlumod, mamaliaid a phryfed!
Yn ogystal â chynnwys y pecynnau hyn, cafodd yr ysgolion gwlau plannu a llawer o
blanhigion a llwyni bach sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt. Bydd y pethau hyn yn darparu
ffynonellau bwyd i bryfed ac yn denu mwy o fywyd gwyllt i’r ardal, gan gynyddu
bioamrywiaeth diroedd yr ysgol.
Gan fod y plant wedi
cymryd rhan mewn
sefydlu a chynnal a
chadw’r ardd, byddan
nhw’n gweld hyn i
gyd ar waith a fydd
yn cefnogi eu dysgu
amgylcheddol.