Page 13 - Spring_1_Welsh_Neat
P. 13
Bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus yn darparu’r holl ganllawiau a’r cymorth sydd
eu hangen a byddan nhw hyd yn oed ar gael i ymuno yn y digwyddiad codi sbwriel
cyntaf!
Pan fydd eich hysgol yn cyflwyno mynegiant o
ddiddordeb, bydd cyfle i ennill pecyn am ddim
sy’n cynnwys: 10 codwr sbwriel, cylchynau
sbwriel, siacedi llachar a bagiau.
Cliciwch yma i gofrestru eich
diddordeb!
“
“ Dyma gyfle gwych i ysgolion a disgyblion gymryd camau ymarferol cadarn
a gwneud cyfraniad pendant i’w cymuned ehangach. Gall pob unigolyn
a sefydliad ymuno â mudiad Caru Cymru a dylai’r fenter hon alluogi 75
o ysgolion ar draws Cymru i gymryd rhan drwy eu darparu ag offer a
”
chefnogaeth rhad ac am ddim.
- Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus ”
Mae’r fenter wedi’i hariannu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Raglen
Ddatblygu Wledig 2014-2020 sydd wedi’i hariannu gan Gyllid Amaeth Ewropeaidd ar
gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.