Page 12 - Spring_1_Welsh_Neat
P. 12
Yn Lansio Ionawr
31 2022!
Mae mynd i’r
afael â sbwriel yn yr
amgylchedd lleol yn ffordd
bwysig o helpu bywyd gwyllt ac
un o’r rhesymau pam fod pecyn codi
sbwriel yn cael ei gynnig i ysgolion wrth i
Cadwch Cymru’n Daclus lansio Parthau
Di-Sbwriel.
Gwahoddir ysgolion cynradd ac
uwchradd i ymuno â sefydliadau ar
draws Cymru i wneud addewid i gael
effaith gadarnhaol ar eu cymunedau.
Fel rhan o’r cynllun, gwahoddir ysgolion i:
> Gadw tiroedd eu hysgolion yn glir.
> Cadw mynedfeydd eu hysgolion yn glir.
> Dewis ardal i ofalu amdano yn eu cymuned, megis stryd leol, llwybr neu barc.
> Darparu adroddiad pob hanner tymor gan ddefnyddio Epicollect. Mae angen
adroddiad sylfaenol sy’n nodi nifer y gweithgareddau glanhau, nifer y disgyblion a
oedd wedi cymryd rhan, a nifer y bagiau a gafodd eu casglu.