Page 7 - Spring_1_Welsh_Neat
P. 7

Potsio Bywyd Gwyllt
        Problem rydym wedi bod yn ymwybodol ohoni ers tro yw hela (fel arfer yn gyfreithlon)

        a photsio (anghyfreithlon) bywyd gwyllt ar gyfer troffïau, meddyginiaethau
        traddodiadol, bwyd neu anifeiliaid anwes egsotig. Mae ffermwyr yn hela hefyd i

        amddiffyn eu cnydau neu eu hanifeiliaid.


        Rhai o’r anifeiliaid eiconig sy’n cael eu gyrru tuag at ddiflaniad drwy weithgareddau

        potsio hyn yw’r eliffantod mawreddog, rhinoserosod a theigrod. Fodd bynnag, mae
        llawer o rywogaethau gwyllt eraill sydd dan fygythiad o ganlyniad i weithgareddau

        potsio.































                                            Pam ei bod hi’n bwysig?

             Mae bodau dynol yn dibynnu llawer mwy ar rywogaethau eraill nag ydym yn ei
                        sylweddoli. Rydym yn dibynnu ar ecosystem sy’n gweithio i...


             Beillio ein                              Cyflenwi                        Cyflenwi dŵr ac

              cnydau                                   ocsigen                              aer glân


                                                                           Darparu ni â
                         Rheoli plâu
                                                                       meddyginiaethau
                                                                           gwerthfawr




        Mae bioamrywiaeth i bob pwrpas yn ffurfio ein system gymorth bywyd ac mae’n han-
                  fodol ein bod ni’n edrych ar ei ôl er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus.



       Mae byd bioamrywiol hefyd yn darparu cyfoeth i’n bywydau drwy wella cyfleoedd ham-
         dden a ffurfio hunaniaethau diwylliannol. Dylem hefyd ystyried goblygiadau moesol a

        moesegol ein goruchafiaeth fel rhywogaeth ddynol a’i heffaith ar bethau byw eraill, yn
                         ogystal â’n hetifeddiaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
   2   3   4   5   6   7   8   9   10   11   12