Page 8 - Spring_1_Welsh_Neat
P. 8
Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur mewn
Ysgolion
Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn rhaglen Cadwch Gymru’n
Daclus sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru
Drwy’ rhaglen hon, mae ysgolion ar draws Cymru wedi cael
planhigion ac offer i ddatblygu lle lleol ar gyfer natur o fewn eu
tiroedd!
Drwy naill ai’n elwa ar un o’r 27 o becynnau dechreuol bach
neu drwy fynd am un o’r pecynnau datblygu mwy sydd ar gael,
mae’r ysgolion yn darparu cynefinoedd ac yn helpu i wella
bioamrywiaeth eu tiroedd.
Mae Ysgol Gatholig y Santes Fair yng Nghaerdydd yn dechrau ar ei thaith Eco-
Sgolion drwy greu lle ar gyfer natur mewn ardal y byddai fel arall heb ddim byd arni
ar diroedd eu hysgol.
Roedd eu Pecyn Dechreuol
Trefol, a gafodd ei ddylunio
ar gyfer ardaloedd heb
le gwyrdd yn cynnwys
cynhwysydd mawr gyda
phlanhigion synhwyraidd i
ddenu pili palod a gwyfynod,
sydd hefyd yn apelio at y
synhwyrau. Cafodd rhedyn
eu plannu hefyd gan eu bod
yn borwyr aer gwych mewn
ardaloedd lle gall llygredd
fod yn uwch ac maen nhw’n
ffynnu mewn mannau bach.